Gweithdy Ysgrifennu yn ei Le | Writing in Place Workshop (DADRWYMO: Zines)
gyda // with
Jane Parry - Artist, Awdur & Darlithydd Celf, GLLM // Artist, Author & Art lecturer, GLLM & Elin Angharad (Bach) - Llyfrgell Zine Cymru
Gweithdy ysgrifennu creadigol o dan arweiniad yr artist ac awdur, Jane Parry, a’r ymarferwr creadigol, Elin Angharad. Gweithdy cerdded ac ysgrifennu yn ei le yn archwilio ysgrifennu am ‘le’ - sut yr ydym yn amgyffred ac yn ymgysylltu âg o. Yn cyfarfod yn Oriel Pendeitch am 10 yb, byddwch yn cael eich tywys o gwmpas Caernarfon ar daith gerdded gofweiniol i annog eich synhwyrau creadigol. Bydd y gweithdy yn parhau wedi cinio yn ôl yn yr Oriel, ac yn gyfle i rannu eich ysgrifennu a’ch syniadau.
Digwyddiad am ddim, ond neilltuo lle trwy Eventbrite yn angenrheidiol. Nifer cyfyngedig yn unig.
(Elin yn bwriadu cynhyrchu nifer bach o lyfrynnau chapbook i ddogfennu’r sesiwn, ond ni fydd hyn yn rhan o’r sesiwn ei hun)
//
Creative writing workshop facilitated by artist and author, Jane Parry, and creative practitioner, Elin Angharad. A walking and place-writing workshop, this session explores different ways of writing about ‘place’ – how we perceive it and connect with it. Meeting at Oriel Pendeitch at 10, you will be guided around Caernarfon on a prompted walk encouraging you to exercise your creative senses. The workshop continues after lunch back in the Oriel to develop and share your writings and ideas.
This is a free event, but booking via Eventbrite is essential. Limited spaces available.
(Elin intends to produce a limited number of chapbooks to document the session, but this won’t be a part of the session itself)
.
.
.
Arddangosfa ddatblygiadol o waith celf zines a llythrennedd greadigol o dan arweiniad Elin Bach a Gwasanaeth Llyfrgelloedd GrŴp Llandrillo Menai. Rhaglen o weithgareddau amrywiol fydd yn bwydo a llywio arddangosfa weledol gynhwysol, unigryw a chyffrous.
Mae rhaglen brysur ac amrywiol o ddigwyddiadau i gyd-fynd â'r arddangosfa, pob un AM DDIM ac yn ddwyieithog. Gweler y rhestr a gwybodaeth lawn neu cysylltwch â chydlynydd CARN am rhagor o wybodaeth.
//
A developmental exhibition of zines and creative literacy artwork led by Elin Bach and the Llandrillo Menai Group Libraries Service. A program of various activities will feed and guide an inclusive, unique and exciting visual exhibition.
There’s a busy and varied programme of events to coincide with the exhibition, all FREE and bilingual. See list for full information or contact CARN coordinator for further information.
Arddnagosfa yn parhau hyd at // Exhibition continues until: 21.06.2025
Am rhagor o wybodaeth // For more information: carn.post@gmail.com
Oriau agor | Opening hours:
10//05/25 - 21/06/25
Dydd Iau - Sadwrn | Thursdays - Saturdays:
10:00 - 14:00